Nid yn unig y mae ein tîm yn rheoli’r coetir o ddydd i ddydd, mae hefyd wedi bod yn rhan o drefnu neu gynnal amrywiaeth eang o weithgareddau yn y coetir ac rydym yn cynllunio llawer rhagor. Dyma ddetholiad o’r hyn sydd wedi’i gynnal yn Long Wood hyd yn hyn, a hefyd yr hyn rydym yn ei gynllunio i’r dyfodol:
- Teithiau Cerdded dan Arweiniad
- Crefftau a Chyrsiau Coed Gwyrdd
- Ysgol Goedwig
- Teithiau Cerdded Iechyd Misol
- Safle Claddu Gwyrdd
- Gwersylla Eco Effaith Isel
- Perfformiadau Awyr Agored
- Croesawu Grwpiau sy’n Ymweld a Lleoliad i Gynadleddau
Mae Long Wood yn brosiect cymunedol ac rydym o hyd yn agored i syniadau newydd o'r tu allan i’r grŵp. Felly, os oes gennych syniad am ddigwyddiad neu os hoffech gymryd rhan trwy helpu i drefnu gweithgareddau, yna dewch i siarad â ni.